Athrawiaeth Carter

Athrawiaeth Carter
Enghraifft o'r canlynolathrawiaeth arlwyddol yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata

Athrawiaeth ym mholisi tramor yr Unol Daleithiau, a ddatganwyd ym mlwyddyn olaf gweinyddiaeth yr Arlywydd Jimmy Carter (1977–81), oedd Athrawiaeth Carter a estynodd polisi cyfyngiant y Rhyfel Oer i gynnwys rhanbarth y Gwlff. Datblygwyd yr athrawiaeth ym mlwyddyn olaf ei arlywyddiaeth, mewn ymateb i Chwyldro Islamaidd Iran yn 1978–79 a goresgyniad Affganistan gan yr Undeb Sofietaidd yn Rhagfyr 1979. Datganodd Carter yn ei Araith ar Gyflwr yr Undeb ar 23 Ionawr 1980 y byddai "unrhyw ymgais gan unrhyw rym allanol i ennill rheolaeth dros Gwlff Persia" yn golygu bygythiad i ddiddordebau'r Unol Daleithiau, yn enwedig o ran olew, a byddai lluoedd Americanaidd yn barod i ymyrryd yn filwrol i sicrhau buddiannau'r wlad. Ffurfiodd Carter y Rapid Deployment Force i weithredu'r athrawiaeth hon yn ogystal â chynyddu gwariant milwrol, a chryfhaodd gysylltiadau'r Unol Daleithiau â Phacistan a'r Aifft. Deng mlynedd yn ddiweddarach, galwodd yr Arlywydd George H. W. Bush ar Athrawiaeth Carter wrth ddanfon lluoedd Americanaidd i yrru Irac allan o Goweit yn Rhyfel y Gwlff (1990–91).


Developed by StudentB